'Does dim rheswm yn y byd pam y dylai'r Gymraeg gategoreiddio pethau yn yr
union un modd â'r Saesneg, a^ gair gwahanol i gyfateb i bob gair gwahanol a
ddefnyddir yn Saesneg (e.e. burrow, den, ayb), yn fwy nag y dylai Saesneg
fod a^ gair gwahanol i gyfateb i bob gwahaniaeth yn y Gymraeg (e.e. neu,
ynte; adnabod, gwybod). Byddai cyfieithu - ac ieithoedd - yn llawer llai
diddorol tasai hynny'n wir.
O'ch disgrifiad, mae'n swnio fel nad yw awdur y gwreiddiol wedi ystyried
goblygiadau cyfieithu ei waith, ac nid yw ond yn deg i egluro wrtho a rhoi
cyfle iddo ailwampio'r darn hwnnw yn gyfan gwbl. Ateb syml, tasai gennych
frawddeg fel, e.e., "A fox lives in a den, a badger's home is called a sett
and an otter's is a holt", fyddai rhyw hanner gyfieithu/hanner egluro: "Yn
Saesneg, mae gwahanol geiriau ar gyfer cartrefi y tri anifail hyn, sef
"den" i lwynog, "sett" i fochyn daear a "holt" i ddyfrgi, ond yn Gymraeg
'rydym yn defnyddio "daear" ar gyfer cartrefi'r llwynog a'r mochyn daear
fel ei gilydd, a gwa^l i gartref y dyfrgi".
Er hyn, 'rwy'n cymryd mae pecyn am fyd natur yw hwn, ac nid am yr iaith
Saesneg, ac efallai nad oes angen so^n am y gwahaniaethau yn y Saesneg o
gwbl.
Ann
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|