Diolch in Ann Corkett am ei sylwadau am benawdau negeseuon. Mae hyn yn ei
gwneud yn haws i ddilyn trywydd unrhyw drafodaeth. Gweler
http://www.mailbase.ac.uk/docs/guidelines.html
ac adran 3 yn arbennig.
Er mwyn i'r system gadw negeseuon am yr un pwnc gyda'i gilydd rhaid i'r
penawd fod yn union yr un fath; er enghraifft nid yw'r cyfrifiadur ddigon
deallus i sylweddoli mai'r un peth yw:
Genetically modified
genetically modified
Mae'r negeseuon yn cael eu cadw ar y We ar:
http://www.mailbase.ac.uk/lists/welsh-termau-cymraeg/archive.html
a gellir defnyddio peiriant chwilio ar:
http://www.mailbase.ac.uk/lists/welsh-termau-cymraeg/search.html
Os edrychwch yn yr archif a sortio yn o^l 'thread' caiff pob neges a^'r un
penawd eu casglu at ei gilydd.
Felly byddai'n werth dilyn awgrym Ann.
1. Os ydych yn holi am derm, neu grw^p o dermau, newydd gellir defnyddio'r
term fel 'pwnc'.
2. Os ydych yn ateb y neges defnyddiwch 'reply to' a bydd hynny'n rhoi'r
penawd cywir i mewn.
3. Os oes arnoch hefyd eisiau codi rhyw gwestiwn arall gwnewch hynny mewn
neges newydd gyda 'pwnc' priodol; hynny yw: ceisiwch gadw trafodaethau ar
waha^n.
Prys.
_________________________________________
Dr J P M Jones
Deon y Gyfadran Addysg - Dean of the Faculty of Education
Prifysgol Cymru Bangor
Trefenai
Ffordd Caergybi
Bangor LL57 2PX
tel: +44 1248 382955/383012/351151
ffacs: +44 1248 383990
_________________________________________
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|