Fy marn i yw bod genynnol/ yn enynnol yn well fel ansoddair / adferf na
genetig / yn enetig wrth gyfieithu pethau megis genetically modified.
Teimlaf bod hyn yn mynegi'r ystyr yn fwy eglur - sef mai'r genynnau sy'n
cael eu haddasu. O'r ochr arall dichon bod genetig yn nes at genetic a bod
hynny'n ei wneud yn haws i'r term blwyfo.
Ond yn bwysicach rhaid osgoi yr hyn a glywir ar y cyfryngau o bryd i'w
gilydd sef 'wedi eu haddasu'n eneteg'; gwyddor yw geneteg.
PMJ
_________________________________________
Dr J P M Jones
Deon y Gyfadran Addysg - Dean of the Faculty of Education
Prifysgol Cymru Bangor
Trefenai
Ffordd Caergybi
Bangor LL57 2PX
tel: +44 1248 382955/383012/351151
ffacs: +44 1248 383990
_________________________________________
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|