>"ease of use = rhwydd i'w ddefnyddio" - Ai "easy to use" dylai hyn fod? Os
>felly mae "rhwydd/hawdd i'w ddefnyddio" neu'r gair "hwylus" yn unig yn
>gywir. Fel arall, "ease of use" = "hawster defnyddio/rhwyddineb
>defnyddio/hwyluster".
Mae "ease of use" yn ymadrodd cyfredin iawn wrth son am feddalwedd.
>bandwidth = ystod ??? (bandwidth - y rhyngrwyd) - ystyr?
Cwestiwn diddorol.
'Amrediad' oedd yr ystyr gwreiddiol ym maes cyfathrebu analog.
'Cyfradd trosgwlyddo data' wrth symud i'r byd digidol.
'Cynhwysedd y rhwydwaith' yw'r defnydd cyffredin ar y Rhyngrwyd.
Mae llawer o son y dyddiau 'ma am wastraffu 'bandwidth' trwy anfon mwy o
ddata na sydd eisiau. Mae enghreifftiau yn cynnwys :
- anfon dogfen brosesydd geiriau yn hytrach nag e-bost testun plaen, ac
- defnyddio llawer o luniau mawr ar dudalennau ar y We
______________________________________________________
Get Your Private, Free Email at http://www.hotmail.com
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|