>"ease of use = rhwydd i'w ddefnyddio" - Ai "easy to use" dylai hyn fod? Os >felly mae "rhwydd/hawdd i'w ddefnyddio" neu'r gair "hwylus" yn unig yn >gywir. Fel arall, "ease of use" = "hawster defnyddio/rhwyddineb >defnyddio/hwyluster". Mae "ease of use" yn ymadrodd cyfredin iawn wrth son am feddalwedd. >bandwidth = ystod ??? (bandwidth - y rhyngrwyd) - ystyr? Cwestiwn diddorol. 'Amrediad' oedd yr ystyr gwreiddiol ym maes cyfathrebu analog. 'Cyfradd trosgwlyddo data' wrth symud i'r byd digidol. 'Cynhwysedd y rhwydwaith' yw'r defnydd cyffredin ar y Rhyngrwyd. Mae llawer o son y dyddiau 'ma am wastraffu 'bandwidth' trwy anfon mwy o ddata na sydd eisiau. Mae enghreifftiau yn cynnwys : - anfon dogfen brosesydd geiriau yn hytrach nag e-bost testun plaen, ac - defnyddio llawer o luniau mawr ar dudalennau ar y We ______________________________________________________ Get Your Private, Free Email at http://www.hotmail.com %%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%