Arghh!!
Plis dileuwch fy neges diweddaraf oll. NID ar gyfer y grwp hwn!
Ann
On 31/12/2019 14:04, Ann Corkett wrote:
> Annwyl Gerald,
>
> Sut mae? Gobeithio ichi'ch dau fwynhau Nadolig dymunol. Anfonodd Bruce
> ei gerdyn atoch cyn imi orffen f'Adroddiad Blynyddol Saesneg, felly
> dyma fo'n gynwysiedig.
>
> Deallais nad oeddech chi ar frys o gwbl i weld y copi 'na o Brut y
> Tywysogion y soniais i amdano, felly 'rwyf wedi'i cadw'n ol dros dro.
> Byddaf yn mynd ag o i gyfarfod mis Chwefror ein cangen ni o Gymdeithas
> y Rhwymwyr Llyfrau, cyfarfod "show and tell", fel enghraifft o sut i
> beidio a rhwymo llyfr.
>
> Tybed, gyda llaw, a sylasoch chi yn Y Casglwr mai'r nawfed o Fai fydd
> dyddiad Ffair Lyfrau'r Morlan? Tybed a allen ni fwcio noson o wely a
> brecwast efo chi - os na fydd rhywbeth pwysicach yn codi yn y cyfamser
> i'ch rhwystro chi rhag ein derbyn ni?
>
> Mae gen i gais arall hefyd. 'Rwyf newydd anfon at grwp trafod termau
> ar y we, mewn penbleth ynghylch term mewn nifer o hen ewyllysiau. Wedi
> imi son wrth Bruce, dywedodd y dylwn fod wedi troi atoch chi, fel
> rhywun a chryn brofiad o ddarllen hen ewyllysiau. Mae'r ymholiad isod.
> Tybed a allech chi wneud unrhyw synnwyr o'r mater?
>
> Gyda phob dymuniad da ichi ac Enid ar gyfer 2020.
>
> Ann - a Bruce
>
> On 31/12/2019 13:43, Ann Corkett wrote:
>> Tybed a oes gan rywun wybodaeth gyfreithiol fyddai'n fy helpu?
>>
>> 'Rwyf wrthi'n cyfieithu i'r Gymraeg gynnwys tair hen ewyllys. Mae'r
>> tair yn cynnwys ymadrodd tebyg i hyn :
>>
>> 'the rest and residue of his goods, cattels, chattels and creditts
>> whatsoever as well moveable & immoveable'
>>
>> Mae digon o enghreifftiau ar y we o'r rhan fwyaf o'r ymadrodd - ond
>> nid y "cattels", ac er imi ddod ar draws UN enghraifft lle mae
>> 'cattel' mewn ewyllys yn cyfeirio at degell, nid yw hynny'n gwneud
>> fawr o synnwyr ar gyfer rhywbeth a fu unwaith, mae'n amlwg, yn derm
>> cyfreithiol cyffredin. Wrth gwrs, mi allai olygu 'da byw', ond 'does
>> dim byd i gadarnhau hynny 'chwaith.
>>
>> Oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth?
>>
>> Diolch - a phob dymuniad da i bawb ar gyfer y flwyddyn newydd, fydd
>> efallai wedi cyrraedd cyn i lawer ohonoch ddarllen hyn.
>>
>> Ann
>>
>>
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|