Aha! Wedi cyrraedd enghraifft arall efo sillafiad gwahanol - catels.
Ac mae yn Wiktionary. Yn anffodus, mae'n fersiwn arall o chattel!
'Dwi'n cael llond bol ar yr ewyllysiau hyn, lle mae rhywun yn "revoke,
disannul and make void", sef "dirymu, dirymu a gwneud yn ddi-rym", ond
diolch am eich sylw.
Ann
On 31/12/2019 13:43, Ann Corkett wrote:
> Tybed a oes gan rywun wybodaeth gyfreithiol fyddai'n fy helpu?
>
> 'Rwyf wrthi'n cyfieithu i'r Gymraeg gynnwys tair hen ewyllys. Mae'r
> tair yn cynnwys ymadrodd tebyg i hyn :
>
> 'the rest and residue of his goods, cattels, chattels and creditts
> whatsoever as well moveable & immoveable'
>
> Mae digon o enghreifftiau ar y we o'r rhan fwyaf o'r ymadrodd - ond
> nid y "cattels", ac er imi ddod ar draws UN enghraifft lle mae
> 'cattel' mewn ewyllys yn cyfeirio at degell, nid yw hynny'n gwneud
> fawr o synnwyr ar gyfer rhywbeth a fu unwaith, mae'n amlwg, yn derm
> cyfreithiol cyffredin. Wrth gwrs, mi allai olygu 'da byw', ond 'does
> dim byd i gadarnhau hynny 'chwaith.
>
> Oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth?
>
> Diolch - a phob dymuniad da i bawb ar gyfer y flwyddyn newydd, fydd
> efallai wedi cyrraedd cyn i lawer ohonoch ddarllen hyn.
>
> Ann
>
> ########################################################################
>
> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following
> link:
> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|