Tybed a oes gan rywun wybodaeth gyfreithiol fyddai'n fy helpu?
'Rwyf wrthi'n cyfieithu i'r Gymraeg gynnwys tair hen ewyllys. Mae'r tair
yn cynnwys ymadrodd tebyg i hyn :
'the rest and residue of his goods, cattels, chattels and creditts
whatsoever as well moveable & immoveable'
Mae digon o enghreifftiau ar y we o'r rhan fwyaf o'r ymadrodd - ond nid
y "cattels", ac er imi ddod ar draws UN enghraifft lle mae 'cattel' mewn
ewyllys yn cyfeirio at degell, nid yw hynny'n gwneud fawr o synnwyr ar
gyfer rhywbeth a fu unwaith, mae'n amlwg, yn derm cyfreithiol cyffredin.
Wrth gwrs, mi allai olygu 'da byw', ond 'does dim byd i gadarnhau hynny
'chwaith.
Oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth?
Diolch - a phob dymuniad da i bawb ar gyfer y flwyddyn newydd, fydd
efallai wedi cyrraedd cyn i lawer ohonoch ddarllen hyn.
Ann
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|