Mae 'na ugeiniau o fathau o "mouldings" a 'does dim un llun na
disgrifiad yn fy holl lyfrau o'r mathau 'rydych chi'n son amdanynt!
Mae'n *bosibl* bod "looped moulding" yr un peth a "loop moulding", a dw
i wedi dod o hyd i un llun o hwnnw (https://www.osbornewood.com/891466).
'Rwyf wedi ysgrifennu at rywun yn y Comisiwn Henebion, yr wyf wedi
gwneud gwaith iddo yn y gorffennol, yn gofyn am ei help, ond mae'n
dibynnu erbyn pryd mae arnoch eisiau ateb. A fyddai'r cwsmer yn medru
rhoi gwybodaeth ichi?
Gyda llaw, gwelaf imi ddefnyddio "mowldinau" unwaith, ond 'rwy'n meddwl
bod "gwaith mowldin" yn gweithio'n well mewn sawl cyd-destun ac yn
swnio'n fwy naturiol.
Ann
On 29/11/2019 14:18, Ann Corkett wrote:
> Mi a i trwy fy llyfrau ar bensaerniaeth, ond os gallwch ddod o hyd i unrhyw beth yn y cyfamser, byddai hynny’n dda.
> Ann
>
> Sent from my iPhone
>
>> On 29 Nov 2019, at 13:54, Mair Rees <[log in to unmask]> wrote:
>>
>> Diolch am ymateb. Na yn anffodus, dim ond y termau.
>>
>> Mair
>>
>>
>>
>> Sent from my iPhone
>>
>>> On 29 Nov 2019, at 13:36, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
>>>
>>> Defnyddiais "mowldin" ar gyfer moulding, wrth gyfieithu llyfr am hen dai, ac mae gen i enwau nifer o fathau, ond nid y ddau dan sylw. Oes gennych chi luniau neu ddisgrifiadau?
>>>
>>> Ann
>>>
>>>>> On 29/11/2019 11:54, Mair Rees wrote:
>>>> Helô,
>>>>
>>>> Mae’r testun yn cyfeirio at gerrig hynafol
>>>> wedi’u haddurno â ‘looped mouldings’ a ‘strap mouldings’. Tybed a oes gennych chi unrhyw syniadau?
>>>>
>>>> Diolch yn fawr,
>>>>
>>>> Mair
>>>>
>>>> Sent from my iPhone
>>>> ########################################################################
>>>>
>>>> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
>>>> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>>> ########################################################################
>>>
>>> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
>>> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>> ########################################################################
>>
>> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
>> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|