Mae'r drwgweithredwyr dan sylw yn gweithio mewn timau lluosog eithriadol o lechwraidd a dinistriol - nid fel unigolion ar eu pennau eu hunain.
Dylid bod yn wyliadwrus rhag dynwared y 'Cuckoo' (Saesneg) unigol yma; oherwydd bod y Saesneg yn aml yn defnyddio ffurfiau unigol i olygu'r lluosog, mewn ffordd sy'n ddieithr i'r Gymraeg; e.e. the 'cake' shop (unigol) = y siop 'deisennau' (lluosog). Yn sicr, 'cwcwod' /'cogau'(yn y lluosog) yw'r troseddwyr y mae'r heddlu yn cadw eu llygaid arnyn nhw, yn yr achosion hyn - dan eu hymgyrch 'Cuckoo Watch'.
Eurwyn.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Si ân Roberts
Sent: 12 April 2019 18:49
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cuckoo Watch
Beth am "Gwylio'r Gwcw"? - Mae'n cyfleu'r ystyr ac yn swnio'n fwy naturiol na'r lluosog.
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1

|