Prynhawn da bawb!
Un bach hyfryd ar brynhawn ddydd Gwener!
Tybed a oes rhywun wedi dod ar draws 'cuckoo watch' o'r blaen?
Dyma'r esboniad:
'Officers have started an initiative to gather intelligence around cuckooing – a phrase linked with the County Lines drugs phenomenon, which sees members of gangs take over the homes of vulnerable people to carry out criminal activity.'
Fel arfer ar gyfer pethau 'watch', 'gwarchod' a ddefnyddir e.e. Gwarchod Cefn Gwlad (Rural Watch), Gwarchod Siopau (Store Watch) a Gwarchod Badau (Boat Watch), ond wi'n amau y byddai Gwarchod Cwcwod yn swnio fel pe bai'r heddlu'n gofalu am yr adar eofn! Haha!
Diolch ymlaen llaw am unrhyw gymorth.
Cofion gorau,
Meinir
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|