Cyd-destun: eithriad mewn polisi dychwelyd ac ad-daliad siop.
Mae'r 'pierced' yn berthnasol gan mai dyma'r elfen sy'n gwneud yr eitemau yn anaddas i'w dychwelyd.
Dwi'n methu dod o hyd i ffordd i fynegi'r cymal heb iddo swnio fel mai 'corff tyllog' sydd dan sylw (er bod y corff dan sylw yn un tyllog, wrth reswm!)
Gemwaith corff (tyllog) sydd yn y ddogfen dan heileit "i'w sortio" ar hyn o bryd. Ond ydi hwn yn ddealladwy ac yn synhwyrol?
neu ...
Gemwaith ar gyfer y corff (tyllog)
Tlysau corff (ar gyfer tyllau)
(neu ryw gyfuniad o'r uchod?)
Y gwir ydi - dwi wedi mynd i dwll!! Mae'r cwbl wedi dechrau swnio braidd yn anffodus a chydig yn rhyfedd yn fy mhen erbyn hyn.
Diolch o galon am unrhyw gymorth,
Gwenlli
|