Peter Wynn Thomas (para 5.13, nodyn d) "Dim ond yn y cyfuniad 'o fewn' ... y treiglir 'mewn' yn yr iaith safonol. Gan hynny, 'i mewn' (yn hytrach na'r 'i fewn' tafodieithol) sydd yn briodol yn yr iaith safonol."
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 21 June 2017 11:20
To: [log in to unmask]
Subject: Re: I mewn, i fewn
Dim ond “I mewn ag ef!” a gynigir yn GyrA am “In with it!”
Mae “i fewn” yn swnio braidd yn ogleddol i mi - fydden ni ddim yn cynnwys yr “i” wrth siarad, dwi ddim yn meddwl - “mynd mewn” . Wrth Gwglo, mae GISDA (ardal Caernarfon) yn hysbysebu “Swydd cysgu i fewn”.
Siân
> On 21 Jun 2017, at 11:10, Bethan Mair <[log in to unmask]> wrote:
>
> Sori i ofyn cwestiwn amlwg, ond a yw un yn gywirach na'r llall?
> Bethan
>
> Anfonwyd o fy iFfôn
> Sent from my iPhone
|