Ar 30 Mehefin, 2017, Ann Corkett ofynnodd:
> Oes 'na rywbeth yn bod ar fy nghyfrifiadur i? Alla i ddim gweld unrhyw
> neges.
Roedd y neges yna mewn testun plaen (bydda'i byth yn gweld fersiwn
HTML felly sylwes i ddim!). Dyma oedd yna:
----------------
Prynhawn da bawb,
Tybed a fyddai unrhyw un yn gallu awgrymu term Cymraeg ar gyfer "table
talker"?
Dwi wedi cael ar ddeall mai cardiau hysbysebu bach 3-ochr a welwch
mewn tafarndai/caffis/tai
+bwyta ydyn nhw sy'n rhoi gwybod i chi am fargeinion, cystadlaethau
ayyb.
Byddai unrhyw awgrym yn help mawr!
Diolch ymlaen llaw
Rhys
|