O roi "rhodd cymorth" a "gov.uk" i mewn i Google, ceir 197 o enghreifftiau.
O roi "cymorth rhodd" a "gov.uk", ceir 436 o enghreifftiau.
Y gwir yw, mae angen rhestr gwbl awdurdodol o dermau cyfreithiol fel hyn, ac mae angen sicrhau bod pawb sy'n llunio testunau Cymraeg yn ymwybodol ohoni.
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Beryl H Griffiths
Sent: 08 April 2016 12:12
To: [log in to unmask]
Subject: Gift Aid (fel berf)
Er mod i'n deall yr ystyr dwi'n ofni y bydd hi'n anodd iawn darbwyllo pobl i newid yr arfer - yn enwedig gan mai Rhodd Cymorth sydd ar safle gov.uk hefyd.
Beryl
-----Neges Wreiddiol/Original Message----- Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Anfonwyd: 08 April 2016 12:02
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: Gift Aid (fel berf)
Dwi'n meddwl mai "Cymorth Rhodd" yw'r term oherwydd ei fod yn gymorth mae'r Llywodraeth yn ei roi sy'n cael ei ychwanegu at y rhodd mae'r unigolyn yn ei rhoi. "Aid added to a Gift", felly.
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Beryl H Griffiths
Sent: 08 April 2016 11:56
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: Gift Aid (fel berf)
Dwi'n gwybod mai Cymorth Rhodd sydd yn Byd Term Cymru - ond mae Rhodd Cymorth yn llawer mwy cyffredin ymhlith cymdeithasau/capeli. Ond i ateb dy gwestiwn, na dwi ddim yn gwybod am ffordd well o'i fynegi.
Beryl
-----Neges Wreiddiol/Original Message----- Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Sian Roberts
Anfonwyd: 08 April 2016 11:44
At: [log in to unmask]
Pwnc: Gift Aid (fel berf)
Oes ffordd o ddweud "Gift Aid your donation" heblaw "Ychwanegwch Gymorth Rhodd (at eich cyfraniad)"?
Diolch
Siân
|