Mae GyA yn rhoi 'gwarchodwr' am conservator ond mae'r gair yn cyfleu
sawl ystyr eitha gwahanol i mi, a dydi 'conservator' ddim yn un o'r
cyfieithiadau a awgrymir dan 'gwarchodwr' yn GPC chwaith.
Ar y llaw arall, dan 'cadwraethwr' mae GPC yn cynnig 'conservator' yn
ogystal รข'r ystyr mwy cyfarwydd i ni erbyn hyn sef 'conservationist'.
Er yr amwysedd - os nad oes cynnig arall, dwi'n meddwl bod 'cadwraethwr'
yn well gair na 'gwarchodwr' i gyfleu swydd 'conservator'.
Oni bai bod gan rywun syniad gwell!
Geraint
|