Mae GyA yn rhoi 'gwarchodwr' am conservator ond mae'r gair yn cyfleu sawl ystyr eitha gwahanol i mi, a dydi 'conservator' ddim yn un o'r cyfieithiadau a awgrymir dan 'gwarchodwr' yn GPC chwaith. Ar y llaw arall, dan 'cadwraethwr' mae GPC yn cynnig 'conservator' yn ogystal รข'r ystyr mwy cyfarwydd i ni erbyn hyn sef 'conservationist'. Er yr amwysedd - os nad oes cynnig arall, dwi'n meddwl bod 'cadwraethwr' yn well gair na 'gwarchodwr' i gyfleu swydd 'conservator'. Oni bai bod gan rywun syniad gwell! Geraint