Os mai cilowat awr (neu cilowat-awr) ydi'r uned, fyswn i yn ei drin fel
gair cyfansawdd ac yn ei luosi fel hyn: cilowat-oriau (neu cilowat oriau).
Mae'n well efo'r cysylltnod yn fy marn i.
Geraint
On 19/06/2015 09:40, Neil Shadrach wrote:
> Uned o egni yw hi. Byddai gwresogydd 1 kW ( pwer ) yn rhedeg am 1 h (
> amser ) yn defnyddio 1 kWh ( ynteu "1 kW h" ynteu "1 kW·h" )
>
>
>
> Ar 19 Mehefin 2015 am 09:10 , ysgrifennodd Geraint Lovgreen <
> [log in to unmask] > :
>> Cwestiwn da! Be yn union ydi'r berthynas rhwng cilowat ac awr? Pam lluosi'r
>> cilowatiau efo oriau? Dwi ddim yn dallt!
>>
>> Geraint
>>
>> On 19/06/2015 08:05, Neil Shadrach wrote:
>>> "cilowat awr" yn ôl y Termiadur ( heb gynnig ffurf luosog )
>>>
>>> "cilowat oriau", "cilowat-oriau", "oriau cilowat" i'w gweld arlein
>>>
>>> CBAC yn defnyddio "cilowat awr" ac "oriau cilowat" o fewn yr un ddogfen
>>>
>>> Oes rheol ar gyfer geiriau cyfansawdd fel rhain? Nid math o awr mo kWh
>>> ond y nifer o gilowatiau ac oriau wedi eu lluosi
>>>
|