Holais innau rhywun 16 oed neithiwr - "tri chi" oedd yr ateb. Wrth
gwrs mae hynny'n wahanol i sgwrs naturiol.
Ar 19 Mehefin 2015 am 09:36 , ysgrifennodd Post < [log in to unmask] > :
> Mae gen i fab ym mlwyddyn 7. Neithiwr, gofynnais iddo gyfieithu “three dogs”
> a’r ateb oedd “tri chi”.
>
>
>
> Bu’n dysgu am dreiglo ar ôl ‘tri’ a ‘chwech’ yn yr ysgol eleni – a dim sôn o
> osgoi’r treigliad llaes.
>
>
>
>
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 18 June 2015 16:53
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: Three dogs
>
>
>
> Wnes i flogio am y treiglad tsh > j slawer dydd:
>
>
>
> https://siantirdu.wordpress.com/2010/04/27/oes-na-jans-am-jainis/
>
>
>
>
>
> On 2015 Meh 18, at 3:06 PM, megan tomos wrote:
>
>
>
> Ia a phob treiglad newydd fel fy nhips/ fy nhiocled a dy jips!
>
> ----Original message----
> From : [log in to unmask]
> Date : 18/06/2015 - 14:05 (GMTDT)
> To : [log in to unmask]
> Subject : ATB/RE: ATB/RE: Three dogs
>
>
> Hir oes i’r treigliad llaes
>
>
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of
> Vaughan-Thomas, Paul
> Sent: 18 Mehefin 2015 14:03
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ATB/RE: Three dogs
>
>
>
> Clywch, clywch Matthew! Cytuno’n llwyr. Mae plant Blwyddyn 8 yn eu
> harddegau, nid yn 4 oed. Pryd yn union y byddan nhw’n barod i ymdopi ag
> erchyllterau’r treigladau tybed?
>
>
>
>
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Matthew Clubb
> [auc]
> Sent: 17 June 2015 11:57
> To: [log in to unmask]
> Subject: ATB/RE: Three dogs
>
>
>
> Dyw i wir ddim yn gweld pam y byddai rhywun am osgoi’r treiglad llaes i
> blant. Oes gan rywun unrhyw dystiolaeth gadarn bod plant yn cael ‘tri chi’
> yn anodd ei ddeall?
>
>
>
> Beth bynnag fo ein hidiolect unigol – a derbyn bod llawer yn dweud ‘tri ci’
> (er fyddwn i ddim yn derbyn ‘bron pawb’ Geraint yn ddi-gwestiwn) – ‘tri chi’
> a ystyrir yn safonol yn ysgrifenedig ac ar lafar. Bydd y plant Blwyddyn 8
> hyn yn dechrau ar eu cyrsiau TGAU ymhen rhyw flwyddyn neu ddwy, a bydd angen
> iddynt ymdrin â Chymraeg ysgrifenedig safonol. Os nad ydynt yn cael
> enghreifftiau o Gymraeg safonol, sut ar wyneb y ddaear y byddant yn gallu
> defnyddio Cymraeg safonol? Rwy’n cymryd bod eu hathrawon Cymraeg druain
> wrthi’n ceisio eu dysgu nhw am y treigladau a ddefnyddir ar ôl rhifau a’u
> hannog i’w defnyddio yn ysgrifenedig.
>
>
>
> A cham gwag yw osgoi ffurfiau fel hyn pan fo plant yn fach iawn – dyna’r
> union adeg pan fydd eu dealltwriaeth am iaith yn carlamu ac fe allent ddysgu
> adeiladwaith yr iaith yn hollol naturiol a didrafferth - dim ots pa mor
> ‘astrus’ y gwelwn ni’r ‘rheol’. ‘Tri thractor’, ‘tri physgodyn’ – byddai’r
> plant lleiaf oll yn eu deall nhw’n hollol ddidrafferth. Efallai fy mod i’n
> hollol anghywir ond onid yw hi’n fwy dryslyd i blant pan fydd eu hathrawon
> yn dweud un peth iddynt a’r hyn maent yn ei weld mewn llyfrau yn
> gwrth-ddweud hynny?
>
>
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Rhian Huws
> Sent: 17 Mehefin 2015 10:32
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Three dogs
>
>
>
> Diolch bawb.
>
>
>
> O’n i’n amau braidd – a dilyn yr egwyddor ‘dau gi bach’.
>
>
>
> Plant blwyddyn 8 sydd dan sylw. Does dim angen cynnwys y ‘tri’ bob tro felly
> dwi’n mynd i awgrymu ‘cŵn’ yn y cyswllt hwnnw, ac yna ‘tri o gŵn’ i weld
> beth fydd barn y cwsmer.
>
>
>
> Diolch yn fawr eto
>
>
>
> Rhian
>
>
>
>
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
> Sent: 17 June 2015 10:21
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Three dogs
>
>
>
> Oes, sori! Dydi ansoddair ar ôl yr enw ddim yn effeithio ar yr angen i
> dreiglo.
>
> Yn bersonol dwi o blaid sgrapio'r treiglad llaes a dilyn yr iaith lafar -
> "tri ci" mae bron bawb yn ei ddeud yn naturiol, dwi'n siwr.
>
> Hefyd byddai hynny'n osgoi'r amwysedd rhwng "eich tri chi" (your three dogs)
> ac "eich tri chi" (your three).
>
> Geraint
>
> On 17/06/2015 10:06, Rhian Huws wrote:
>
> Bore da
>
>
>
> Cwestiwn gwirion o bosibl...
>
>
>
> Rwy’n cyfieithu rhywbeth i blant ar y thema uchod. Wrth gwrs, ‘tri chi’ sy’n
> ramadegol gywir ond rwy’n ceisio meddwl am ffyrdd o osogi’r treiglad llaes
> os oes modd. Os defnyddia’i ‘tri ci bach’ a oes angen treiglad llaes o hyd –
> ‘tri chi bach’?
>
>
>
> Methu gweld dim yn y llyfrau gramadeg sydd gen i.
>
>
>
> Diolch ymlaen llaw
>
>
>
> Rhian
>
>
>
>
>
>
>
>
> ******************************************************************
> This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended
> solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed.
> If you have received this e-mail in error, please notify the administrator
> on the following address:
> [log in to unmask]
>
> All communications sent to or from the Council may be subject to recording
> and/or monitoring in accordance with relevant legislation
>
> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol
> ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os
> ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r
> gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
> [log in to unmask]
>
> Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi
> a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol
> *******************************************************************
>
> --
>
> Ymwadiad:
>
> Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a
> roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a
> all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen
> i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.
>
> Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au)
> y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges
> hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon
> iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi
> yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi
> nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio,
> dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.
>
> O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir
> datgelu cynnwys y negest ebost hon.
>
> Disclaimer:
>
> While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information
> and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses
> arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to
> obtain your own professional advice.
>
> The information in this email and any attachments is intended solely for the
> attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended
> recipient, or person responsible for delivering this information to the
> intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the
> intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and
> must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of
> it.
>
> Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000
> the contents of this email may be disclosed.
>
>
>
>
>
>
>
>
|