Nid yw Bruce yn hoff o'r gair "cymuned", fel term braidd yn annaturiol a
ddefnyddir yn rhy awtomatig i gyfieithu "community" yn Saesneg. Byddaf
yn defnyddio e.e. "cymdogaeth", "pobl yr ardal", "ardalwyr" lle gwna'r
rheina'r tro.
Mae cyfieithiad posibl arall newydd fy nharo, sy'n addas at gyd-destun
arall - efallai bod llawer ohonoch chi'n ei ddefnyddio eisoes, sef
"byd", e.e. "in the mountain rescue community" - ym myd achubwyr mynydd".
Mae Bruce newydd edrych ar hyn a gofyn imi ychwanegu'r posibilrwydd o
hepgor y gair yn gyfan gwbl, e.e.
among y Pakistani community of Bradford - ymhlith Pacistaniaid Bradford
(gan osgoi'r awgrym bod holl Bacistaniaid Bradford yn byw mewn rhyw geto
efo'i gilydd).
Ann
|