Roeddwn i'n meddwl efallai y byddai Berwyn yn cofio beth oedd yr arfer ac ar ôl ei holi gynnau fach, dwi newydd gael y neges yma ganddo:
"'Y Weinyddiaeth Weithfeydd' roddais i mewn cyfieithiad i'r Comisiwn Brenhinol yn Aberystwyth ryw ddwy flynedd a rhagor yn ôl, ond wn i ddim o ble y ces i'r teitl hwnnw!
Rwy'n cofio synnu, flynyddoedd maith cyn hynny, na fyddai'r teitl yn codi'n amlach yn ein gwaith ni o gofio mor bwysig oedd y weinyddiaeth honno yn syth ar ôl yr Ail Ryfel Byd. On'd oes tinc hen-ffasiwn i'w theitl hi erbyn hyn?!
Falle y galle Mary (Jones) gynnig cyngor sicrach"
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards
Sent: 09 Ionawr 2015 08:56
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Ministry of Works
Yn �l Geiriadur y Gyfraith, 'Deddf Gwaith ac Adeiladau Cyhoeddus 1874" yw'r "Works and Public Buildings Act 1874". A dim ond 'gwaith' a geir am 'works' gyda'r ystyr hon yng Ngeiriadur yr Academi, hyd y gwelaf.
Mae TermCymru'r rhoi 'Y Weinyddiaeth Gyfiawnder' am y 'Ministry of Justice', gan awgrymu bod angen treiglo.
Byddai hynny'n awgrymu 'Y Weinyddiaeth Waith'.
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 08 January 2015 21:05
To: [log in to unmask]
Subject: Ministry of Works
Oes enw swyddogol am y Ministry of Works?
y Weinyddiaeth Waith, y Weinyddiaeth Weithiau, y Weinyddiaeth Gweithiau, y Weinyddiaeth Weithfeydd - i gyd i'w gweld ar y we!
Diolch
Si�n
|