On 29/01/2015 14:10, Ann Corkett wrote:
> 'Does gennyf i ddim clust ar gyfer beth sy'n ddeheuol neu ogleddol,
> ond chwilias dan "potsian" yn GPC a chael y rhain: Segura, cyboli,
> stwna, ymyrryd; gweithio mewn ffordd aflêr, gwneud llanastr neu stomp
> (o). Edrychais hefyd dan "stwna": stwna, stwnan, ystwna: Bod wrthi’n
> gwneud rhywbeth mewn ffordd ddiamcan ond dymunol, piltran, ffidlan,
> tin-droi, loetran, crwydro’n ddiamcan; holi a stilio, rhygnu ymlaen.
>
> Oes 'na rhywbeth yno sy'n canu gloch, neu oes 'na ragor o ddewis i'w
> gael o chwilio dan rai o'r ystyron?
>
> Ann
> On 29/01/2015 12:40, Geraint Lovgreen wrote:
>> Be di'r gair deheuol sy'n cyfateb i "potsian" = to mess about with
>> something?
>>
>>
>> -----
>> No virus found in this message.
>> Checked by AVG - www.avg.com
>> Version: 2015.0.5645 / Virus Database: 4273/9019 - Release Date:
>> 01/29/15
>>
>>
>
Potsian/potsian â i fi 'fyd.
|