Diolch byth am gyfieithiad sy'n ystyried nid "Sut alla i gyfieithu'r
Saesneg?" ond "Sut fyddai Cymro'n dweud hyn?".
Wedi cael llond fy mol yn gynharach y bore 'ma ar ddarllen pethau fel
"cael presenoldeb". Mae 'na fath o Gymraeg sy'n berffaith gywir yn
ramadegol, ond yn ddim byd ond "Cyfieitheg", ac 'rwy'n dechrau adnabod
yr arddull mewn rhai cyhoeddiadau dwyieithog nad enwaf mohonynt. Mi wn
nad yw amser bob tro'n caniatau cyfle i bendroni’n hir, ond mae'n well
gennyf droi at y Saesneg gwreiddiol na darllen pethau fel hyn, ac 'rwy'n
siwr bod llawer iawn o Gymry'n teimlo'r un fath, felly nid yw'r
cyfieithu'n ddim byd ond ymarfer gwleidyddol gywir.
Ann
On 27/01/2015 15:35, Cyfri Dot wrote:
> Mi faswn i'n cael fy nhemtio i roi rhywbeth fel 'peidiwch â gofyn!'
> Pell o'r gwreiddiol dwi'n gwybod, ond dyna'r neges!
>
>
>
>> On 27 Ion 2015, at 15:32, Gareth Jones <[log in to unmask]> wrote:
>> Neges ar grysau T I hysbysu'r ffaith na ellir gwerthu alcohol I bobl sy'n feddw.
>>
>> If you're drunk we can't serve you. Know the score.
>>
>> Unrhyw awgrym? Rhywbeth cryno ar ffurf gorchymyn fel y gwreiddiol.
>> Sent from my BlackBerry® wireless device
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2015.0.5645 / Virus Database: 4273/9007 - Release Date: 01/27/15
>
>
>
|