Ie - ond allet ti ddim jest dweud "pinnau" wrth nodi'r pethau sy ar werth gan y Gerddorfa.
Fyse rhaid i ti ddweud "pinnau ysgrifennu" ac mae hynny braidd yn glwmsi os yw "beiros" yn gwneud yn iawn.
Siân
On 2014 Tach 19, at 2:48 PM, Neil Shadrach wrote:
> Llawer o enghreifftiau o 'pin' yn GyA: "rhoi pin ar bapur", "pin ac
> inc", "pin llenwi", "pin ffelt" ..
> Math penodol o bin yw beiro. Fyddai neb yn galw pin llenwi yn feiro.
>
> 2014-11-19 13:59 GMT+00:00 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
>> Er cymaint y mwynheais i stori Eurwyn, a theimlo drosto yn cael cam gan yr
>> athro cas, dwi’n meddwl mai beiro fyddwn i’n ei roi. Blas hynafol braidd ar
>> sgrifbin, fel y dywedodd Siân.
>>
>> Geraint
>>
>> From: anna gruffydd
>> Sent: Wednesday, November 19, 2014 12:58 PM
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: pen
>>
>> Dwi'n gwbod mai beiros ydyn nhw - ond rwan eu bod nhw di penderfynnu
>> pleidleisio y nhw pia dewis.
>>
>> Anna
>>
>> Ye who opt for cut'n'paste
>> Tread with care and not in haste!
>>
>> 2014-11-19 12:46 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
>>>
>>> Mae hon yn broblem.
>>>
>>> Mae beiro'n tueddu i feddwl un o'r pethau 'ma lle mae inc yn llifo dros
>>> bêl fach ar y pen ac mae pob math o wahanol ddyfeisiau sgrifennu i'w cael
>>> erbyn hyn.
>>>
>>> Ond mae "(y)sgrifbin" yn swnio dipyn fel cerbydres a diddosben - yn
>>> enwedig os ydyn ni'n sôn am bethau fel keyrings a phadiau ysgrifennu bach a
>>> sticeri ffenestri.
>>>
>>> Holi fyswn i, gan obeithio mai beiros ydyn nhw!
>>>
>>> Siân
>>>
>>>
>>>
>>>
>>>
>>>
>>>
>>> On 2014 Tach 19, at 7:10 AM, anna gruffydd wrote:
>>>
>>> Diolch am y stori ddifyr! Dyna beth gwirion, ddaru mi ddim meddwl am
>>> dynnu'r 'y' a'i wneud yn 'sgrifbin' sy'n llawer llai llenyddol (er y byddaf
>>> bob amser yn sgwennu 'sgrifennu', byth 'ysgrifennu'. Sfrifbin yn taro
>>> deuddeg. Diolch.
>>>
>>> Anna
>>>
>>> Ye who opt for cut'n'paste
>>> Tread with care and not in haste!
>>>
>>> 2014-11-18 22:09 GMT+01:00 Eurwyn Pierce Jones <[log in to unmask]>:
>>>>
>>>> Sgrifbin. A plîs peidied neb ag awgrymu mai 'pen' ddylai'r gair fod yn
>>>> y Gymraeg hefyd.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Yn fachgen un ar ddeg oed ar fy niwrnod cyntaf yn Ysgol Ramadeg Bechgyn y
>>>> Bala (yr ysgol 'fawr' bondigrybwyll), dyna lle roeddwn i ymhlith deg ar
>>>> hugain o fechgyn diniwed eraill, yn ufudd gopïo oddi ar y bwrdd sialc du ein
>>>> gwers Hanes gyntaf un erioed yno, gan drosglwyddo’r cynnwys cyfareddol oddi
>>>> ar y 'bwrdd du' yn ddestlus i dudalen flaen lân ein llyfrau gwersi ffrés.
>>>> Roeddem ni i gyd fel petaem ni'n cael hwyl eithriadol arni hi, mewn
>>>> awyrgylch ddisgybledig a diogel o dawel - pob un â'i ysgrifbin newydd sbon
>>>> danlli (yr anrheg ddisgwyliedig am basio'r lefn plýs) yn ei law, yn benodol
>>>> ar gyfer cyflawni'r union orchwyl dan sylw. Ymhen y rhawg, torrwyd ar y
>>>> distawrwydd myfyriol gyda'r bonheddwr o athro yn galw allan gydag awdurdod
>>>> cwrtais, a awgrymai y dylem ni i gyd yn ein desgiau pren derw ufuddhau iddo
>>>> ar ein hunion - allan o ryw barchedig ofn dychrynllyd tuag ato fo yn ogystal
>>>> â'r sefydliad ysgolheigaidd yr oeddem ni i gyd erbyn hyn wedi ein trylwyr
>>>> fabwysiadu i mewn iddo.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> "Nawr te, fechgyn - eich sylw, bob un; dodwch eich pen ar y ddesg am
>>>> eiliad, os gwelwch chi'n dda" ebe'r deheuwr athrylithgar a safai'n wynebu'r
>>>> dosbarth o ddisgyblion eiddgar, pob un ohonom ni yn ein hiwnifformau
>>>> smartiaf erioed a gaed. Heb amau am chwinciad y gallai fod unrhyw amwyster
>>>> yn y byd i'r hyn a olygid wrth 'pen', i lawr yr aeth fy mhen i ar ei union;
>>>> hyd nes bod fy nhalcen a blaen fy nhrwyn a'm gên i gyd yn gorffwys yn
>>>> ddestlus o fflat ar ben y pentwr geiriau (eu hanner nhw'n gwbl ddieithr i
>>>> mi) roeddwn i newydd eu cofnodi yn fy llawysgrifen orau bosib ar linellau
>>>> glas y ddalen glaerwen flaenaf yn fy llyfr ysgrifennu. Yn ystod yr ysbaid o
>>>> lonyddwch disgwylgar a ddilynai, y cwbl a synhwyrwn i oedd troedio pwyllog
>>>> pâr o esgidiau oedolyn yn agosáu at fy nesg i, ac yn araf stopio reit wrth
>>>> fy ymyl i - doedd dim amheuaeth - fel pe'n gwbl fwriadol.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Yna'n ddisymwth o sydyn, cwympodd cledr llaw aeddfed ar gorun fy mhen i
>>>> fel crafanc eryr, bachodd coflaid o fysedd cryf am wallt fy nghopa a'm codi
>>>> gyda nerth braich craen mewn chwarel, nes peri i mi gael fy nghodi bron yn
>>>> llythrennol oddi ar sedd fy nesg un-darn derw.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> "Ac mi wela i bod gennym ni gomedïwr yn y dosbarth derbyn eleni, oes e?",
>>>> bloeddiodd yr athro'n wyllt gacwn i mewn i'm llygaid ofnus, cyn gollwng ei
>>>> afael arnaf a gadael i mi fownsio’n ôl i sedd dderw-galed fy nesg. "Neu a
>>>> oes angen i mi ddysgu rhywrai ohonoch chi bethau mor elfennol â bod angen
>>>> DAU ben arnoch chi yn yr Ysgol Ramadeg", taranodd ymlaen: "Un pen i feddwl
>>>> ag e'," meddai, gan guro fy mhen i â'i ddwrn yngháu. A chan gydio yn fy
>>>> ysgrifbin i â'i fysedd chwe modfedd o hyd, a'i hysgwyd yn arddangosol (reit
>>>> o flaen fy wyneb pinc, melyn a choch erbyn hyn), fel pe i gyfnerthu ei
>>>> bwynt, ychwanegodd: "... a phen arall i ysgrifennu'r meddyliau hynny i lawr
>>>> yn eich llyfrau gwaith!"
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Wn i ddim a oedd y deheuwr o athro hwnnw yn y fan a'r lle yn rhyw
>>>> lled-chwerthin wrtho ei hun wrth ymdrîn yn y fath fodd â gogleddwyr o blant
>>>> mor ddi-glem â nyni ym mherfeddion gogledd Cymru; ond chefais i ddim awgrym
>>>> o gwbl mai cellwair direidus a ysgogodd y wers y teimlodd ef y rheidrwydd
>>>> i'w chyflwyno i mi y prynhawn trawmatig hwnnw. A fentrais i erioed wedi
>>>> hynny ychwaith, i'w holi ef ymhellach ar y pwynt. Mae yna rai gwersi y
>>>> mae'n rhaid eu dysgu'n ostyngedig, bid siwr; cyn bwrw ymlaen wedi hynny â'r
>>>> gwaith gerbron - gydag agwedd ryw ychydig bach fwy goleuedig ar y mater.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Serch hynny, er gwaethaf y profiad cynnar hwnnw ymhlith y dysgedigion
>>>> cydnabyddedig sydd ohoni, 'ysgrifbin' fydd fy ngair Cymraeg dewisol i am
>>>> 'pen'.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Eurwyn.
>>>>
>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
>>>> Sent: 18 November 2014 18:12
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Subject: Re: pen
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> ti'n iawn, beiro ydi o - felly dyna fasa galla ia?
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Anna
>>>>
>>>>
>>>> Ye who opt for cut'n'paste
>>>>
>>>> Tread with care and not in haste!
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> 2014-11-18 19:07 GMT+01:00 Dafydd Timothy <[log in to unmask]>:
>>>>
>>>> beiro?
>>>>
>>>> On 18/11/2014 17:49, anna gruffydd wrote:
>>>>
>>>> H.y. peth i sgwennu -
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Cyd-destun: nwyddau mae Cerddorfa'n eu gwerthu -
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> mae pen/pin sgrifennu yn swnio braidd yn hirwyntog i mi; mae ysgrifbin yn
>>>> llenyddol; mae pin dur ella'n rhy ogleddol (er mod i'n lecio hwnna). Be mae
>>>> plant yn arfer a'i glwad yn yr ysgol? Diolch
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Anna
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Ye who opt for cut'n'paste
>>>>
>>>> Tread with care and not in haste!
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> On 18/11/2014 15:33, Gwasg Helygain | Print | Design wrote:
>>>>
>>>> Diolch Dafydd
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Elli di checio tudalennau 1- 5 plis (dwi’n gadael tud 6 yn Saesneg gan
>>>> mai dyma;r iaith ar Facebook)
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Guto Lloyd-Davies
>>>>
>>>> Director
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Error! Filename not specified.
>>>>
>>>> Gwasg Helygain Ltd | Rear of 24 Elwy Street | Rhyl | Denbighshire
>>>> | LL18 1BP
>>>> 01745 331411 | [log in to unmask] | www.gwasg.com
>>>> LinkedIn | Facebook | Twitter
>>>>
>>>> Registered In England & Wales No 3281399 | Registered Office: as above
>>>> | Vat Reg No 289 3358 10
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> From: Dafydd Timothy [mailto:[log in to unmask]]
>>>> Sent: 18 November 2014 14:41
>>>> To: Gwasg Helygain | Print | Design
>>>> Subject: Re: Llyfryn
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> wrth gwrs
>>>>
>>>> On 18/11/2014 14:39, Gwasg Helygain | Print | Design wrote:
>>>>
>>>> Diolch!
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Mae na 2 x le ar y cwrs nos fory yn Gaernarfon – rhad ac am ddim!
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Gai yrru yn arall ataf mewn 20mun?
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Guto Lloyd-Davies
>>>>
>>>> Director
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Error! Filename not specified.
>>>>
>>>> Gwasg Helygain Ltd | Rear of 24 Elwy Street | Rhyl | Denbighshire
>>>> | LL18 1BP
>>>> 01745 331411 | [log in to unmask] | www.gwasg.com
>>>> LinkedIn | Facebook | Twitter
>>>>
>>>> Registered In England & Wales No 3281399 | Registered Office: as above
>>>> | Vat Reg No 289 3358 10
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> From: Dafydd Timothy [mailto:[log in to unmask]]
>>>> Sent: 18 November 2014 14:28
>>>> To: Gwasg Helygain | Print | Design
>>>> Subject: Re: Llyfryn
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Dyma fo - dim ond wedi 'trwsio' ambell beth ac ychydig bach o
>>>> dreigliadau.
>>>> Diddorol hefyd!
>>>>
>>>> Cofion,
>>>> Dafydd
>>>>
>>>> On 17/11/2014 17:02, Gwasg Helygain | Print | Design wrote:
>>>>
>>>> Dafydd
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Dwi allan eto yn rhedeg cyrsiau Marchnata / Rhwydweithiau Cymdaeithasol i
>>>> Busnes Cymru mis yma, Ionawr, Chwefror a Mawrth.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Elli di sbio trwy hwn i gywiro / newid fel bo angen plis?
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Fydd llyfryn Lefel Uwch hefo ti yn y bore.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Guto Lloyd-Davies
>>>>
>>>> Director
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Error! Filename not specified.
>>>>
>>>> Gwasg Helygain Ltd | Rear of 24 Elwy Street | Rhyl | Denbighshire
>>>> | LL18 1BP
>>>> 01745 331411 | [log in to unmask] | www.gwasg.com
>>>> LinkedIn | Facebook | Twitter
>>>>
>>>> Registered In England & Wales No 3281399 | Registered Office: as above
>>>> | Vat Reg No 289 3358 10
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>
>>>
>>>
>>>
>>
>>
>>
>> No virus found in this message.
>> Checked by AVG - www.avg.com
>> Version: 2015.0.5577 / Virus Database: 4213/8591 - Release Date: 11/18/14
|