Mae hyn yn fater i'w drafod os daw'r cwestiwn gerbron. Oes gan y cyrff eraill hyn swyddogaethau o gwbl yn y wlad hon? Ond gan fod yr enw Iechyd Cyhoeddus Lloegr eisoes wedi ennill ei blwyf, ni welaf reswm dros ei wrthod.
Yn iach,
Tim
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 22 October 2014 14:30
To: [log in to unmask]
Subject: Re: enwau cyrff eto
Oes - mae amryw ond, o edrych yn fras, swn i'n meddwl bod mwy o enghreifftiau o adael yr enw yn Saesneg mewn dogfennau Cymraeg.
Efallai mai'r ffaith nad yw'r geiriau yn eu trefn arferol sy'n gwneud i mi feddwl amdano fel enw ac felly rwy'n gyndyn o'i gyfieithu.
Os ydyn ni'n cyfieithu "Public Health England", beth ydyn ni'n ei wneud ag enwau cyrff fel "Natural England" ac "English Heritage" - fydden ni ddim yn cyfieithu'r rheiny does bosib? - ond efallai am nad oes enwau cyfatebol am gyrff Cymreig.
Diolch
Siān
On 2014 Hyd 22, at 12:01 PM, Neil Shadrach wrote:
> Mae digon o enghreifftiau o "Iechyd Cyhoeddus Lloegr" ar safleoedd
> .nhs.uk a .gov.uk ac mae'r FSA ei hunan yn arfer "Asiantaeth Safonau
> Bwyd"
>
> 2014-10-22 11:30 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
>> Mae'r llinell fain rhwng enw a disgrifiad wedi codi'i phen eto!
>>
>> Public Health England in association with the Welsh Government, the Scottish
>> Government and the Food Standards Agency in Northern Ireland.
>>
>> Yn fy marn i, mae "Public Health England" yn enw, i'w adael yn Saesneg ond
>> "Food Standards Agency" yn ddisgrifiad, i'w gyfieithu, er mai yng Ngogledd
>> Iwerddon y mae - ond ydi e'n edrych yn rhyfedd i adael un yn Saesneg a
>> chyfieithu'r llall?
>>
>> Diolch
>>
>> Siān
>>
This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
|