Mae'n ymddangos bod Thunderbird wedi penderfynu bod gormod o negeseuon
yn fy "Inbox" ac wedi cael gwared ar bopeth yn ol at fis Mai 2013. Yn
ffodus, mae negeseuon y Cylch yn mynd yn syth i ryw flwch arall, ac mae
llawer o negeseuon eraill naill ai wedi mynd i ffolderi gwahanol, neu
mae atebion iddynt, sy'n cynnwys y gwreiddiol, yn "Sent".
Er hynny, 'rwyf wedi colli llawer *iawn* o negeseuon, y rhan fwyaf yn
rhai a oedd eisiau sylw o hyd. Os meddyliwch mai chi yw un o'r awduron,
a wnewch chi gysylltu eto, os gwelwch yn dda? Mi wn, er enghraifft, y bu
gennyf negeseuon oddi wrth Bethan Jones heb eu hateb.
Cofion gorau,
Ann
|