Print

Print


Mae'n ymddangos bod Thunderbird wedi penderfynu bod gormod o negeseuon 
yn fy "Inbox" ac wedi cael gwared ar bopeth yn ol at fis Mai 2013.  Yn 
ffodus, mae negeseuon y Cylch yn mynd yn syth i ryw flwch arall, ac mae 
llawer o negeseuon eraill naill ai wedi mynd i ffolderi gwahanol, neu 
mae atebion iddynt, sy'n cynnwys y gwreiddiol, yn "Sent".

Er hynny, 'rwyf wedi colli llawer *iawn* o negeseuon, y rhan fwyaf yn 
rhai a oedd eisiau sylw o hyd.  Os meddyliwch mai chi yw un o'r awduron, 
a wnewch chi gysylltu eto, os gwelwch yn dda? Mi wn, er enghraifft, y bu 
gennyf negeseuon oddi wrth Bethan Jones heb eu hateb.

Cofion gorau,

Ann