Fyddai "Gweddïwch - Dros Eich Heddlu" yn gweithio?
Neu rhywbeth fel "Yn enw'r Tad - Gweddïwch dros eich Heddlu"
Mae eisiau didolnod ar yr 'i' beth bynnag.
Geraint
-----Original Message-----
From: Meinir Thomas
Sent: Tuesday, April 08, 2014 10:14 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Get Focused
Bore da bawb,
Pennawd sydd gen i. Y pennawd llawn yw:
Get focused - Pray4YourPolice
Yna, mae'n mynd ymlaen i roi cyngor ynglŷn â gweddio dros eich heddlu
(darganfod enwau swyddogion eich tîm plismona bro a gweddio drostynt yn ôl
eu henwau, darllen papurau newydd a gweddio dros unrhyw swyddog sydd wedi'i
anafu ag ati).
Rhaid cyfaddef, sai'n hoff iawn o "Ffocyswch". Ar hyn o bryd, yr hyn sydd
gen i yw:
"Hoelio Sylw - Gweddiwch Dros Eich Heddlu". Ond a fyddai "Hoeliwch Eich
Sylw" yn well? Braidd yn hirwyntog efallai? Mae "Pray4YourPolice" yn
ymddangos ar ddechrau'r ddogfen ar ben ei hun (teitl y darn), felly rwy'n
awyddus i gadw "Gweddiwch Dros Eich Heddlu" yn hytrach na "Gweddio Dros Eich
Heddlu".
Diolch ymlaen llaw am unrhyw gyngor.
Cofion gorau,
Meinir
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4355 / Virus Database: 3722/7311 - Release Date: 04/07/14
|