Os rhowch 'ceunant y cythraul loggerheads' a chwilio Google, mae dogfen gan Wasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn ymddangos ar frig y rhestr. Wedi dweud hynny, 'does dim sicrwydd mai dyna'r enw swyddogol, wrth gwrs.
Sioned
On 30 Apr 2014, at 15:30, Dylan Foster Evans wrote:
> O ran 'Ceudwll y Diafol', tybed a oes enghreifftiau eraill o 'ceudwll' mewn enw lle (nad yw'n gyfieithiad)? A yw/fu 'ceudwll' erioed yn air byw ar lafar? Mae 'ceunant' yn air llawer mwy cyffredin.
>
> Rhaid bod enw Cymraeg, ond byddwn yn tybio nad 'Ceudwll y Diafol' mohono yn wreiddiol.
>
> Dylan
>
> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
> Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Ann Corkett
> Anfonwyd: 30 Ebrill 2014 12:38
> At: [log in to unmask]
> Pwnc: Re: Devil's Gorge
>
> Mae Bruce yn arfer dweud bod "Cythraul" yn llawer mwy naturiol mewn cyd-destun fel hwn nag y mae "Diafol", ond mi wna i holi.
> Ann
> On 30/04/2014 11:36, Sian Roberts wrote:
>> Helo
>>
>> Roedd llawer o enghreifftiau o "Ceudwll y Diafol" ar y we ac ambell un o "Ceunant y Diafol" a "Ceunant y Cythraul".
>> Mae'r ddau olaf yn swnio'n fwy tebygol ar gyfer "Gorge" ond mae llawer mwy o "Ceudwll".
>> Dw i ddim yn gwybod ai camgyfieithu sydd wedi bod yma 'ta a yw'n enw gwreiddiol.
>>
>> Siān
>>
>>
>>
>> On 2014 Ebrill 30, at 11:16 AM, Dafydd Timothy wrote:
>>
>>> ...hefyd
>>> Rhywun yn gwybod a oes Cymraeg cyfatebol i Devil's Gorge ym Mharc Gwledig Loggerheads yn Sir y Fflint?
>>>
>>>> Diolch,
>>>> Dafydd
>>>>
>>>>
>>
>> -----
>> No virus found in this message.
>> Checked by AVG - www.avg.com
>> Version: 2014.0.4570 / Virus Database: 3931/7416 - Release Date:
>> 04/29/14
>>
>>
|