Ydych chi wedi sylw ar ddiflaniad y berf Saesneg "to be" cyn y gair
"but" ar y cyfryngau?
Ni cheir mwyach
Stocks are at record highs—but so are earnings
ond
Stocks may be at record highs—but so are earnings
Ni cheir:
Cameron is prime minister, but he governs in coalition with the Liberal
Democrats.
ond
Cameron may be prime minister, but he governs in coalition with the
Liberal Democrats.
Gall hyn fod yn broblem i'r cyfieithydd. Sylwais ar enghraifft yn
ddiweddar lle 'roedd cyfieithydd wedi delio ag ymadrodd tebyg fel petai
gwir amheuaeth ynghylch y ffeithiau, ac 'rwyf wedi gorfod cysylltu a
chwsmeriaid yn fwy nag unwaith i ofyn ym mha ystyr y maent yn
defnyddio'r "may be", felly mae rhaid bod yn ymwybodol o'r amwysedd.
Ann
|