Y gwartheg ifanc, a'r gwartheg yn unig, yn ddieithraid yw'r 'na bach' yng
ngwaelod Ceredigion, ac mae'n fyw iawn!
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 06 February 2014 13:14
To: [log in to unmask]
Subject: store cattle - ac almanacs
Mi wn mai "gwartheg sto^r" yw'r cyfieithiad safonol, yn o^l TermCymru.
Dim ond ymholiad ieithyddol yw hwn.
'Rwyf wrthi'n darllen hunangofiant J Cyril Hughes, o Geredigion yn
bennaf, "O Flaenau Tywi i Lannau Taf". Mae o'n son am orfod newid
cyfieithiad is-deitlwr o ymadrodd Dai Jones ar "Cefn Gwlad":
"Cyfieithwyd 'da bach', er enghraifft, fel 'small cattle' yn hytrach na
'store cattle' (tud. 178-9)." Oes 'na rai ohonoch chi'n gyfarwydd a'r
ymadrodd "da bach", ac o ba ardal - 'roedd yn hollol newydd i Bruce. Yn
ol GPC, "small or young cattle; sheep as distinguished from bovine
animals" yw "da bach".
Ymadrodd arall oedd yn newydd inni: "Ar ganol fy myfyrdod - hel amanacs,
ar lafar gwlad -" (tud. 109). Unrhyw un yn gyfarwydd a^ "hel almanacs"?
Diolch,
Ann
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4259 / Virus Database: 3684/7066 - Release Date: 02/05/14
|