Y gwartheg ifanc, a'r gwartheg yn unig, yn ddieithraid yw'r 'na bach' yng ngwaelod Ceredigion, ac mae'n fyw iawn! Mary -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 06 February 2014 13:14 To: [log in to unmask] Subject: store cattle - ac almanacs Mi wn mai "gwartheg sto^r" yw'r cyfieithiad safonol, yn o^l TermCymru. Dim ond ymholiad ieithyddol yw hwn. 'Rwyf wrthi'n darllen hunangofiant J Cyril Hughes, o Geredigion yn bennaf, "O Flaenau Tywi i Lannau Taf". Mae o'n son am orfod newid cyfieithiad is-deitlwr o ymadrodd Dai Jones ar "Cefn Gwlad": "Cyfieithwyd 'da bach', er enghraifft, fel 'small cattle' yn hytrach na 'store cattle' (tud. 178-9)." Oes 'na rai ohonoch chi'n gyfarwydd a'r ymadrodd "da bach", ac o ba ardal - 'roedd yn hollol newydd i Bruce. Yn ol GPC, "small or young cattle; sheep as distinguished from bovine animals" yw "da bach". Ymadrodd arall oedd yn newydd inni: "Ar ganol fy myfyrdod - hel amanacs, ar lafar gwlad -" (tud. 109). Unrhyw un yn gyfarwydd a^ "hel almanacs"? Diolch, Ann ----- No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2014.0.4259 / Virus Database: 3684/7066 - Release Date: 02/05/14