Ie, dyna oedd gen i.
Fy nghamgymeriad oedd dweud wrth y cwsmer mod i wedi dweud hynny!
Rwy'n gyndyn o'i newid nôl - ond rwy'n meddwl bod awdurdod yn y maes yn mynd i gael gweld y testun wedyn ac efallai y gwneith e/hi sylwi ar y peth.
Diolch
Siân
On 2013 Tach 8, at 1:09 PM, Ann Corket wrote:
> yn y man a elwir erbyn hyn yn "Caergybi" - neu rywbeth fel 'na???
> Ann
> On 08/11/2013 12:20, Sian Roberts wrote:
>> Gweithio ar ddarn sy'n dweud bod Cybi Sant wedi sefydlu mynachlog yng Nghaergybi.
>>
>> Yn eich barn chi, a fyddai'n well dweud rhywbeth sy'n dangos nad Caergybi oedd enw'r lle ar y pryd?
>> Ym marn y bachgen sgrifennodd y gwaith, mae'n rhaid i ni beidio â thybio bod y darllenwyr yn dwp ond dw i ddim mor siŵr!
>>
>> Diolch
>>
>> Siân
>>
>>
|