Dw i ddim yn siwr ydi "Cymreig" yn gweithio.
Dibynnu ar y cyd-destun - "Cymro balch" / "Cymry balch" neu "Cymro / Cymry i'r carn"
"Caru Cymru" / "Cymru am byth" / "Cymru yn fy nghalon" - i osgoi Cymro/Cymraes
"Balch o 'Nghymreictod' yn dipyn o lond ceg!
Hwyl
Siān
On 2013 Tach 1, at 9:03 AM, Rhianwen Davies wrote:
> Cwestiwn ar dop poster Saesneg yw, "proud to be Welsh?"
>
> Beth fyddai orau am y fersiwn Cymraeg:
>
> Falch o fod yn Gymreig?
> Falch i fod yn Gymreig?
>
> Arall?!
>
> Dim lle i roi Cymro/Cymraes.
>
> Diolch :)
|