Ar Fedi 24, 2013, 'sgrifennodd Eurwyn Pierce Jones:
> Gyda llaw, am chwech o'r gloch y nos y mae yp yn troi yn yh. Felly, o
> hanner dydd (12.00 yp) ymlaen, i fyny at 17.59, (e.e. 17.45 neu 5.45 yp =
> chwarter i chwech y p'nawn) defnyddied y talfyriad yp; ond o 18.00 neu
> 6.00 yh ymlaen tan hanner nos (12.00 yb) = chwech (o'r gloch) yr hwyr (yh).
Pam 6pm? Mae'r hwyrnos yn dechrau ar amserau gwahanol yn dibynnu ar
bryd mae'r haul yn machlud. Yn yr Haf dwi wastad yn gweld hi'n
chwerthinllyd gweld "6 yh" a dwi ddim wir yn gweld 6 yn 'hwyr'
hyd yn oed yn y gaeaf.
|