Ar Fedi 24, 2013, 'sgrifennodd Matthew Clubb :
>
> Fe wetwn i ei bod hi'n ddigon teg dweud taw 6 o'r gloch yw dechrau'r "hwyr" - nid yw hi'n fwy chwerthinllyd na gweud bod 1 y bore yn 'fore'.
Ie ond o leia mae'r "bore" yn mynd o 00:00 i 11:59 yn lle newid hanner
ffordd o'r "bore bach".
Mae yb/yb/yh yn iawn ar lafar ond mae'r byd yn rhedeg ar feddalwedd.
Mewn meddalwedd mae'n rhaid cadw am/pm yr un fath neu cael cyfieithiad
unigol - dyw hi ddim yn bosib cael dau fersiwn o pm.
Falle "cyn cinio" "ar ol cinio" (cc, ac)
Ta beth, mae'n llawer haws osgoi hyn drwy ddefnyddio'r cloc 24 awr.
|