'Sesiynau gwybodaeth' y bydda i'n ei ddefnyddio am 'briefings'
Ond os taw taflenni gwybodaeth yw'r rhain - fe fyddwn i'n rhoi 'taflenni gwybodaeth' - ei chadw hi'n syml a'i chadw hi'n Gymraeg.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sioned Graham-Cameron
Anfonwyd/Sent: 17 Mehefin 2013 10:02
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Briefing
Mi fasa briffiadau yn air defnyddiol dros ben. Mae yna engrheifftiau ar y we - Heddlu Dyfed Powys ac Ofcom yn ei ddefnyddio ...
Sioned
On 17 Jun 2013, at 09:59, Dafydd Timothy wrote:
> Ie, diolch ... cyfarwyddiadau ... cyhoeddiadau ... ydi 'briffiadau' yn ei chymryd hi braidd yn rhy bell?
>
> Dwi erioed wedi gweld y gair briffiad(au) ond a fedrwn ni ei fathu?
>
>
> On 17/06/2013 09:46, Sioned Graham-Cameron wrote:
>> Roeddwn am awgrymu 'cyfarfod briffio' nes i mi edrych ar y we a gweld mai pethau tebyg i daflenni ar ffurf PDF ydyn nhw.
>>
>> Fasa 'cyhoeddiadau' yn rhy ben-agored?
>>
>> Sioned
>>
>>
>>
>> On 17 Jun 2013, at 09:32, Dafydd Timothy wrote:
>>
>>> Bore da, un ac oll!
>>> Ffit ac iach wedi'r penwythnos ac yn barod i ail-gydio yn ein dyletswyddau cyfieithu breintiedig?!
>>>
>>> Be a ddywedir am 'a briefing' / 'briefings'?
>>> Wela i ddim byd wrth chwilota, mwy na brief=briff ayyb.
>>> Fase cyfarwyddiad(au) yn agos ati?
>>> Cyfeirio y mae at Voluntary Arts Briefings sy i'w gweld ar-lein.
>>>
>>> Diolch,
>>> Dafydd
|