Ysgrifennodd, Gareth Evans Jones:
> Taflen waith ynghylch systemau cyfrifiadurol ydy'r
> cyd-destun. Cyfeirir at 'Edit Paging'. Dyma ddiffiniad o 'paging':
> Mae GyrA yn cynnig tudalennu am paging, ond wn i ddim a yw hyn yn addas yn y cyd-destun hwn. Help!
Mi fasen i wedi dweud 'cyfnewid tudalennau' fel disgrifiad hirach. Mae
gan saesneg y gair paginate (rhannu i dudalennau) ond mae paging yn
cael ei ddefnyddio fan hyn i olygu system i symud tudalennau o
wybodaeth (rhwng cof a disg).
I fi mae tudalennu yn awgrymu paginate yn fwy na paging, a falle fod
tudaleniad yn well. Ond mae'n air na fydd yn gwneud synnwyr heb y
cyd-destun cyfrifiadurol beth bynnag.
|