Darllen yn rhy frysiog
2012/7/28 Ann Corkett <[log in to unmask]>:
> Sylwaf (os nad ydw i wedi darllen yn rhy frysgiog) nad oes neb yn cyfeirio
> at awgrymiadau GyrA, ac mi wn fod Sian yn un dda am edrych yno fel arfer - a
> oes 'na ryw wall ar y fersiwn ar lein, tybed?
>
> Ann
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Neil Shadrach
> Sent: 28 July 2012 11:31
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: microwave
>
> 2012/7/28 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
>> Ydi - mae'r don yn fenywaidd ond sôn am y popty rydyn ni fan hyn.
>
> Rwy'n deall ein bod ni'n trafod y ffwrn ond dyw hynny ddim yn newid
> cenedl y gair 'microdon' - a dyna'r pwynt ro'n i'n ymateb iddo.
>
>> Mae "y feicrodon" yn swnio'n wirion iawn i mi am y popty.
>
> Alla'i ddim helpu'r ffaith bod y gair yn swnio'n wirion i rhai. Tynnu
> sylw at y ffaith ei fod e'n cael ei ddefnyddio gan lawer ar y we a gan
> o leiaf ychydig ers degawdau.
>
>> A dydi "ffwrn" ddim yn ei siwtio chwaith, na "stof".
>
> Ddim yn gweld beth sy'n bod ar 'ffwrn'. Mae bwyd yn mynd mewn iddi ac
> yn cael ei gynhesu. Roedd 'car' yn golygu 'sled' ar un adeg mae'n
> debyg. Ydy hynny'n golygu ei fod yn air gwirion ar gyfer cerbyd gydag
> olwynion?
|