http://www.cbac.co.uk/uploads/papers/s11-0243-51.pdf
"Mae’r diagramau’n dangos sut mae bacteria yn gallu cael eu tyfu mewn labordy."
"D: dysgl Petri yn cael ei rhoi mewn deorydd (incubator)"
On Tue, 31 Jul 2012 14:39:43 +0100, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
>Mae "deorydd" (ac amrywiaethau) yn GyrA dan "incubator". Nid yw Bruce yma,
>imi ofyn a oedd o'n teimlo nad oedd "deori" yn addas ar gyfer bacteria, ond
>gallaf holi'n nes ymlaen y prynhawn 'ma.
>
>O ran sylw Sylvia, er na fyddai eisiau'r bacteria, 'tasen nhw yno, buasai
>eisiau iddynt dyfu, er mwyn datgelu eu hunain, felly 'dw i ddim yn teimlo
>bod 'na gymaint o broblem a hynny.
>
>Ann
>
>
>-----Original Message-----
>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Jones
>Sent: 31 July 2012 14:31
>To: [log in to unmask]
>Subject: Re: Incubator Room
>
>Dallt dim am waith dwr, ond mae 'meithrin' yn cael ei ddefnyddio ym maes
>bioleg hefyd yntydi - ystafell meithrin bacteria?
>Rhian
>
>O.N. Mae http://www.cbac.co.uk/uploads/publications/12714.pdf yn rhoi
>'deorydd' am 'incubator' yn y cyd-destun yma hefyd.
>
>-----Original Message-----
>From: Sian Roberts
>Sent: Tuesday, July 31, 2012 2:03 PM
>To: [log in to unmask]
>Subject: Incubator Room
>
>Mewn gwaith trin dwr mae'r stafell yma. Gofynnais am esboniad:
>
>"The incubators 'incubate' petri-dishes and any bacteria present will grow."
>
>Yn �l GyrA, y gair am inciwbetio bacteria yw "magu" ond does dim gair yn s�n
>
>am facteria o dan "incubator"
>
>Fyddai hi'n dderbyniol i osgoi s�n am "incubator" a dweud "ystafell magu
>bacteria"?
>
>Diolch
>
>Si�n
|