Tybed a all rhywun awgrymu rhywbeth ar gyfer yr uchod?
Adroddiad gan glwb ieuenctid ydy'r cyd-destun, ac mae'n cyfeirio at rai o
uchafbwyntiau digwyddiad diweddar.
Mae'r pennawd wedi'i osod fel hyn:
5 WAYS OUR MEMBERS
SHONE
Mae'r gair 'shone' gryn dipyn yn fwy na gweddill y pennawd, i bwysleisio'u
bod yn aelodau dawnus.
Dwi wedi meddwl am 5 CAMP neu 5 GORCHEST DDISGLAIR EIN HAELODAU ond yn
ddelfrydol, mae angen gair olaf sy'n cyfleu 'shone'.
Unrhyw awgrymiadau, os gwelwch yn dda?
|