Tybed a all rhywun awgrymu rhywbeth ar gyfer yr uchod? Adroddiad gan glwb ieuenctid ydy'r cyd-destun, ac mae'n cyfeirio at rai o uchafbwyntiau digwyddiad diweddar. Mae'r pennawd wedi'i osod fel hyn: 5 WAYS OUR MEMBERS SHONE Mae'r gair 'shone' gryn dipyn yn fwy na gweddill y pennawd, i bwysleisio'u bod yn aelodau dawnus. Dwi wedi meddwl am 5 CAMP neu 5 GORCHEST DDISGLAIR EIN HAELODAU ond yn ddelfrydol, mae angen gair olaf sy'n cyfleu 'shone'. Unrhyw awgrymiadau, os gwelwch yn dda?