Flynyddoedd yn ol, cyfieithiais bapurau gradd ar hanes celf o'r Gymraeg i'r
Saesneg, am sawl blwyddyn. Cefais y gwaith trwy Wil Petherbridge, ac mi
wnaeth f'annog i fod yn weddol caredig, gan fod yr ymgeiswyr eisoes yn
ymladd yn erbyn anawsterau trwy wneud y papurau yn Gymraeg o gwbl. Nid wyf
yn datgan barn, dimond ffaith.
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 08 May 2012 14:55
To: [log in to unmask]
Subject: Re: NHGCH
Mae hwn yn gwestiwn dyrys.
Mae rhywun yn awyddus i wneud ei orau dros yr ymgeisydd, wrth gwrs,
ond mae rhywun am sicrhau tegwch i ymgeiswyr eraill a'r arholwr/
darpar gyflogwr hefyd.
Wnes i gyfieithu traethawd gradd rhyw dro ac roeddwn i'n meddwl tybed
a oedd rhyw ffordd o awgrymu nad oedd yr ymgeisydd yn gallu sillafu'n
dda iawn a bod amryw o anghysondebau eraill yn ei waith. Ond, wrth
gwrs, roedd wedi gwneud ymdrech i wneud y gwaith yn Gymraeg ac mae'n
eitha posibl y byddai'n dod drosodd yn well yn Saesneg.
Erbyn hyn, mae'n gyfreithiwr llwyddiannus iawn - felly mae'n siwr na
wnes i ormod o gam ag e!!
Siān
On 8 Mai 2012, at 14:10, Geraint Lovgreen wrote:
> Pwy bynnag ydi'r ymgeisydd, dydi o neu hi ddim yn haeddu'r swydd
> beth bynnag am sgwennu cais mor annealladwy!
>
> Mae hyn yn codi'r cwestiwn dyrys i ba raddau y mae cyfieithydd i
> fod i wella rhywbeth fel ffurflen gais neu bapur arholiad.
>
> Geraint
>
> ----- Original Message ----- From: "Meinir Thomas"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, May 08, 2012 12:48 PM
> Subject: Re: NHGCH
>
>
> Ooooooo, wi'n gweld nawr! Wel, dyna dwp fues i! Er, naeth ein
> Swyddog Iaith ddim sylwi chwaith! Gan ei bod hi'n gyn athrawes, nes
> i holi hi am yr acronym yn gyntaf oll. Y ddwy ohonom wedi bod yn
> crafu'n pennau!
>
> Diolch Catrin a Huw. :)
>
> Cofion gorau,
>
> Meinir
|