'Does gen i ddim syniad ynghylch yr ymadrodd, ond os nad oes term eisoes
byddai'n werth edrych ar y byd Cynllunio a Rheoli Datblygu, lle mae son am
bethau fel "emerging Unitary Development Plan policies". Yno 'rwy'n arfer
cyfieithu "emerging" fel "oedd/sydd yn yr arfaeth". Wrth edrych yn ol, gyda
mwy o wybodaeth, wn i ddim ai dyna oedd y dewis gorau ar gyfer y cyd-destun,
ond mae'n fan cychwyn.
O chwilio am "emerging" yn Nherm-Cymru, ceir "sy'n dod i'r amlwg", sy'n
datblygu" ac "i'w [h]ystyried" a chyfieithir "new and emerging" fel
"diweddaraf".
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Thomas
Sent: 30 May 2012 11:07
To: [log in to unmask]
Subject: New Emerging Drugs
Bore da bawb,
Mae'n debyg fod y Llywodraeth yn ceisio cael gwared ar "Legal Highs" a
defnyddio "New Emerging Drugs" yn ei le. Oes rhywun wedi dod ar draws y term
o'r blaen? Oes cyfieithiad swyddogol?
Diolch ymlaen llaw am eich cymorth.
Cofion gorau,
Meinir
|