Mae cael ansoddair wastad yn ei gwneud hi'n haws defnyddio'r term mewn
brawddeg - neu mae'r "yn ôl" bob amser yn mynd i gael ei ddehongli fel rhan
naturiol o'r frawddeg yn hytrach na rhan annatod o'r term. Er enghraifft,
wrth ychwanegu ansoddair -
"Comprehensive systems thinking" > "meddwl yn ôl systemau cynhwysfawr" (ond
nid y "systems" sy'n "comprehensive" ond y "systems thinking")
Mae'r Saesneg yn y cyd-destun yma'n defnyddio'r enw fel ansoddair, felly
ansoddair ydi'r peth gorau i'w ddefnyddio wrth gyfieithu term fel hyn.
Geraint
----- Original Message -----
From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, May 09, 2012 12:38 AM
Subject: Re: systems thinking
Ffordd o edrych ar broses fel system, ac ystyried dylanwad pob rhan o'r
system ar bop rhan arall, ydy'r ystyr. (Enghraifft enwog yw'r ‘tragedy of
the commons’ - mae’n siwr bod eglurhad o honno ar Google beth bynnag).
Efallai y byddai'n fwy cywir defnyddio term sy'n cynnwys y gair ‘systemau’
yn hytrach na'i ddefnyddio fel ansoddair, felly mae 'meddwl yn ol systemau'
fel awgrymodd Anna yn swnio'n dderbyniol i mi.
Dafydd
On Tue, 8 May 2012 19:17:47 +0100, Rhian Jones <[log in to unmask]>
wrote:
>meddylfryd systemau/systemaidd?
>Rhian
>
>From: anna gruffydd
>Sent: Tuesday, May 08, 2012 5:48 PM
>To: [log in to unmask]
>Subject: Re: systems thinking
>
>Neu Meddwl yn ol Systemau - mae yna amwyster yn Meddwl drwy Systemau i'm
>tyb i - mi allai olygu Ystyried Systemau yn hytrach na'u defnyddio'n
>ganllaw
>
>Anna
>
>
>2012/5/8 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
>
> Fase'n well gen i ansoddair - Meddwl Systemaidd, neu Meddwl Cyfundrefnol
> ----- Original Message -----
> From: Elin Davies
> To: [log in to unmask]
> Sent: Tuesday, May 08, 2012 5:00 PM
> Subject: Re: systems thinking
>
> Meddwl trwy Systemau sydd ar Term Cymru
>
>
> On 8 May 2012 16:58, Claire Richards <[log in to unmask]> wrote:
>
> �In it's simplest terms Systems Thinking can be defined as a way of
> looking at a system, such as a business process, as a whole � but applied
> in our context it is a management methodology which is a service focused
> evolution of 'Lean' methodology. It promotes common sense thinking,
> adaptability in the face of change and the elimination of waste in work
> processes.�
>
>
>
> Mae�n beth mawr gan Lywodraeth Cymru a�r sector cyhoeddus ar hyn o
> bryd. Oes rhywun wedi dod ar draws neu fathu term?
>
>
>
> Diolch.
>
> Claire
>
>
>
>
>
> Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a
> Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig
> yw 27A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DA.
>
>
>
> Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales
> under the number 4276774, and the address of the registered office is 27A
> Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DA
>
>
>
>
>
>
|