>>>>>>>Mae cael ansoddair wastad yn ei gwneud hi'n haws defnyddio'r term mewn brawddeg...Mae'r Saesneg yn y cyd-destun yma'n defnyddio'r enw fel ansoddair<<<<<<<<
Eitha teg.
Beth oedd ar fy meddwl oedd fy mod yn ansicr os oes gwahaniaeth go iawn rhwng 'systems thinking' a 'systemic thinking'. Mae rhai'n defnyddio'r termau i olygu pethau gwahanol. My fum mewn gweithdy breswyl ar 'systems thinking' am wythnos yn ysgol fusnes Llundain flynyddoedd (maith!) yn ôl, chlywais i mo'r term 'systemic thinking' o gwbl bryd hynny. Os oes gwahaniaeth, dwi ddim yn siwr sut fyddwn yn gwahaniaethu rhwng y ddau yn Gymraeg, os byddai angen.
Efallai, 'meddwl yn ôl systemau' neu 'meddylfryd systemau' (systems thinking) a 'meddwl systemaidd' (systemic thinking)?
Dafydd
On Wed, 9 May 2012 10:28:43 +0100, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:
>Mae cael ansoddair wastad yn ei gwneud hi'n haws defnyddio'r term mewn
>brawddeg - neu mae'r "yn ôl" bob amser yn mynd i gael ei ddehongli fel rhan
>naturiol o'r frawddeg yn hytrach na rhan annatod o'r term. Er enghraifft,
>wrth ychwanegu ansoddair -
>
>"Comprehensive systems thinking" > "meddwl yn ôl systemau cynhwysfawr" (ond
>nid y "systems" sy'n "comprehensive" ond y "systems thinking")
>
>Mae'r Saesneg yn y cyd-destun yma'n defnyddio'r enw fel ansoddair, felly
>ansoddair ydi'r peth gorau i'w ddefnyddio wrth gyfieithu term fel hyn.
>
>Geraint
>
>----- Original Message -----
>From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Wednesday, May 09, 2012 12:38 AM
>Subject: Re: systems thinking
>
>
>Ffordd o edrych ar broses fel system, ac ystyried dylanwad pob rhan o'r
>system ar bop rhan arall, ydy'r ystyr. (Enghraifft enwog yw'r ‘tragedy of
>the commons’ - mae’n siwr bod eglurhad o honno ar Google beth bynnag).
>
>Efallai y byddai'n fwy cywir defnyddio term sy'n cynnwys y gair ‘systemau’
>yn hytrach na'i ddefnyddio fel ansoddair, felly mae 'meddwl yn ol systemau'
>fel awgrymodd Anna yn swnio'n dderbyniol i mi.
>
>Dafydd
>
>
>On Tue, 8 May 2012 19:17:47 +0100, Rhian Jones <[log in to unmask]>
>wrote:
>
>>meddylfryd systemau/systemaidd?
>>Rhian
>>
>>From: anna gruffydd
>>Sent: Tuesday, May 08, 2012 5:48 PM
>>To: [log in to unmask]
>>Subject: Re: systems thinking
>>
>>Neu Meddwl yn ol Systemau - mae yna amwyster yn Meddwl drwy Systemau i'm
>>tyb i - mi allai olygu Ystyried Systemau yn hytrach na'u defnyddio'n
>>ganllaw
>>
>>Anna
>>
>>
>>2012/5/8 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
>>
>> Fase'n well gen i ansoddair - Meddwl Systemaidd, neu Meddwl Cyfundrefnol
>> ----- Original Message -----
>> From: Elin Davies
>> To: [log in to unmask]
>> Sent: Tuesday, May 08, 2012 5:00 PM
>> Subject: Re: systems thinking
>>
>> Meddwl trwy Systemau sydd ar Term Cymru
>>
>>
>> On 8 May 2012 16:58, Claire Richards <[log in to unmask]> wrote:
>>
>> �In it's simplest terms Systems Thinking can be defined as a way of
>> looking at a system, such as a business process, as a whole � but applied
>> in our context it is a management methodology which is a service focused
>> evolution of 'Lean' methodology. It promotes common sense thinking,
>> adaptability in the face of change and the elimination of waste in work
>> processes.�
>>
>>
>>
>> Mae�n beth mawr gan Lywodraeth Cymru a�r sector cyhoeddus ar hyn o
>> bryd. Oes rhywun wedi dod ar draws neu fathu term?
>>
>>
>>
>> Diolch.
>>
>> Claire
>>
>>
>>
>>
>>
>> Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a
>> Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig
>> yw 27A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DA.
>>
>>
>>
>> Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales
>> under the number 4276774, and the address of the registered office is 27A
>> Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DA
>>
>>
>>
>>
>>
>>
|