Mae'r ddau'n iawn.
Fel pennawd, dwi'n meddwl y byddai "Adnabod eich afon" yn iawn.
Gallech ddefnyddio'r "chi" i roi pwyslais neu i swnio'n fwy
anffurfiol mewn brawddeg.
Mater o reddf yw e lot dwi'n meddwl:
Mae angen trwsio'ch pibellau dŵr oer.
Mae angen i ni ddod i'ch tŷ chi.
Mae angen newid y bibell yn eich ardal chi.
Siân
On 22 Mawrth 2012, at 09:41, Howard Huws wrote:
> Alla'i ofyn eich cymorth chi i dorri dadl? Mae angen cyfieithu'r
> slogan "Knowing your river". Mae rhai'n ffafrio "Adnabod eich afon
> chi": mae eraill yn mynnu bod "eich afon chi" yn anghywir, ac y
> dylid defnyddio "Adnabod eich afon". Wela'i fawr o wahaniaeth.
|