Mae'r ddau'n iawn. Fel pennawd, dwi'n meddwl y byddai "Adnabod eich afon" yn iawn. Gallech ddefnyddio'r "chi" i roi pwyslais neu i swnio'n fwy anffurfiol mewn brawddeg. Mater o reddf yw e lot dwi'n meddwl: Mae angen trwsio'ch pibellau dŵr oer. Mae angen i ni ddod i'ch tŷ chi. Mae angen newid y bibell yn eich ardal chi. Siân On 22 Mawrth 2012, at 09:41, Howard Huws wrote: > Alla'i ofyn eich cymorth chi i dorri dadl? Mae angen cyfieithu'r > slogan "Knowing your river". Mae rhai'n ffafrio "Adnabod eich afon > chi": mae eraill yn mynnu bod "eich afon chi" yn anghywir, ac y > dylid defnyddio "Adnabod eich afon". Wela'i fawr o wahaniaeth.