Dwi'n meddwl y byse pobl yn fwy cyndyn o gyfadde nad ydyn nhw'n deall
"significant" nag "arwyddocaol".
Mae'n anodd gwybod pa mor bell i fynd lawr y lôn yma.
Fel roedd hi'n digwydd, roedd "pwysig" yn ffitio cystal os nad gwell
nag "arwyddocaol" ac roedd modd aralleirio'r "cyfoedion" i sôn am
bobl ifanc.
Siân
On 22 Mawrth 2012, at 14:08, Carolyn wrote:
> Fyddai hi'n ddiddorol gwybod ydy pobl gyffredin sy'n darllen y
> Saesneg yn
> deall ystyr 'peers' ac ydyn nhw'n rhoi eu fersiynau Saesneg ar brawf
>
> Carolyn
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian
> Roberts
> Anfonwyd/Sent: 22 Mawrth 2012 13:48
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: significant
>
> Ges i neges y bore 'ma gan ddylunydd yn dweud rhywbeth fel
>
> "The client has come back to us to say that none of their Welsh
> speakers
> recognise the following two words:
>
> arwyddocaol and gyfoedion
>
> Are you able to offer a different translation for these please?"
>
> Mewn un ffordd, ro'n i'n drist, wrth gwrs, ond mewn ffordd arall
> ro'n i'n
> falch eu bod nhw wedi codi'r peth - o leia dwi'n gwybod lle dwi'n
> sefyll! A
> dwi'n cymryd bod hynny'n golygu eu bod nhw'n deall y gweddill!
>
>
> Siân
|