Cytuno gant y cant - faswn i wedi rhoi "Gr^wp Celf Rhaeadr Gwy" heb feddwl
ddwywaith. I mi byddai'n hurt rhoi "Rhayader Art Group" yn Saesneg mewn
dogfen Gymraeg, am yr union resymau y mae Matthew'n eu hamlinellu isod.
Geraint
----- Original Message -----
From: "Matthew Clubb [auc]" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, February 10, 2012 2:59 PM
Subject: ATB: enwau cymdeithasau
> Dw i ddim yn gweld y broblem - fyddai'r Saesneg byth yn gadael 'Cymdeithas
> Ffotograffiaeth Noethlymunwyr Gogledd Ynys yr Iâ' yn yr Islandeg. Pe bawn
> i'n cyfieithu darn i'r Saesneg yn sôn am Gymdeithas Lenyddol Capel y Garn
> fe fyddwn i'n rhoi 'Capel y Garn Literary Society' ac am Gwmni Drama
> Licyris Olsorts fe roddwn i 'Licyris Olsorts Drama Company'. A gan fy mod
> i'n gwneud hynny i'r Saesneg, paham na fyddwn i'n gwneud yr un peth wrth
> gyfieithu'r ffordd arall? Mae'r Gymraeg gystal pob ticyn ag unrhyw iaith
> arall: Clwb Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Chelsea; Cylch Gwau Coleg y Drindod,
> Caergrawnt; Cymdeithas Rygbi Gogledd Corea; Clwb Dawnsio Morris Efrog
> Newydd - dyna beth mae ieithoedd go iawn yn ei wneud.
>
> Er fy mod i’n gwerthfawrogi beth mae Eurwyn yn ei ddweud, dw i ddim yn
> credu mai dewis gwleidyddol yw cyfieithu enwau; mae’n ddewis niwtral,
> arferol i unrhyw iaith. Y dewis gwleidyddol yw peidio â’u cyfieithu: nid
> yw’r enw yn ein hiaith ni yn ‘swyddogol’ felly rhaid cadw’r Saesneg.
>
> Wrth gwrs, mae gan bob clwb a chymdeithas yr hawl i arddel enw ym mha
> bynnag iaith fel y gwelant yn dda - o fewn y clwb neu'r gymdeithas - ond
> ni allent byth â rheoli ieithoedd cyfan. Does gan Grŵp Celf Rhaeadr Gwy
> ddim gronyn o awdurdod dros y Gymraeg - heblaw o fewn eu cylch eu hun - a
> phe byddent yn comisiynu gwaith cyfieithu fe allent fynnu peidio ag arddel
> enw Cymraeg yn y gwaith hwnnw. Ond ni allen nhw fynnu bod iaith gyfan yn
> peidio â rhoi enw arnynt. Croeso iddyn nhw ddod fan hyn â rhoi cynnig
> arni!
>
>
>
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian
> Roberts
> Anfonwyd/Sent: 10 Chwefror 2012 12:29
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: enwau cymdeithasau
>
> Diddorol!
>
> Efallai bod syniad yma am weithdy gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru - "A
> oes ar gyfieithwyr 'gyfrifoldeb diwyro i genhadu, hybu a chynyddu'r
> defnydd o'r iaith Gymraeg'? Os felly, sut?"
>
> Os ydi'r Gymdeithas ei hunan wedi penderfynu peidio â chael enw Cymraeg -
> ac mae'r peth yn amlwg wedi'i drafod yn ôl a ddywedwch chi
> - onid ei braint hi yw hynny?
>
> Pe bawn i'n gweithio i'r Grŵp ei hunan, mae'n siwr y byddwn yn gofyn "Oes
> gennych chi enw Cymraeg? Os nad oes, a fyddech chi'n hoffi i mi gynnig
> un?" ond dim ond cyfeiriad at y Grŵp mewn dogfen gan gorff arall yw hwn.
>
> Cofion
>
> Siân
>
>
>
> On 10 Chwef 2012, at 12:13, Eurwyn Pierce Jones wrote:
>
>> Mae yna arlunwyr sy'n siarad Cymraeg yn byw yng nghyffiniau Rhaeadr
>> Gwy, oedd yn arfer bod yn aelodau o'r grwp hwn; ac un rheswm pam
>> iddynt beidio ag ail-ymaelodi, fel rydw i'n deall, oedd am nad oedd
>> enw Cymraeg iddo. Mae'r grwp hwn yn arfer defnyddio gwasanaeth
>> cyfieithydd ar-y-pryd o bryd i'w gilydd (h.y. pan gynigir y gwasanaeth
>> iddyn nhw am y nesaf peth i ddim tâl!), ar ofyn rhai arlunwyr sy'n
>> rhan o'r grwp ei hun ac sy'n awyddus i ddangos eu cefnogaeth i'r iaith
>> Gymraeg.
>>
>> Mewn amgylchiadau felly, mi fyddwn i'n meddwl mai da o beth fyddai
>> annog y
>> grwp i arddel enw'r grwp yn y naill iaith yn ogystal â'r llall.
>> Wedi'r
>> cyfan, yng Nhymru y mae'r dref hyfryd hon wedi ei lleoli, ac ar ffin y
>> dref mae yno raeadr godidog ar yr afon Gwy - oddi wrth yr hwn y mae'r
>> dref ei hun wedi cael ei henwi; ac yn wir, y mae'r sillafiad
>> Seisnigaidd ar y lle yn warth i'r iaith Gymraeg. At hynny, gan nad
>> sefydliad ar gyfer y di- Gymraeg yn unig ydyw'r grwp celf dan sylw,
>> pam gwarafun iddo gael enw Cymraeg cywir.
>>
>> Dyma, yn fy marn i, pryd y mae'r cyfieithydd yn fwy na dim ond gwas
>> cyflogedig sy'n gwneud darn o waith just i ennill ei fara/bara 'menyn;
>> yn hytrach, mae arno fo / arni hi gyfrifoldeb diwyro i genhadu, hybu a
>> chynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg (yn y cywair mwyaf graenus a
>> defnyddiol) ym mhob cyd-destun dan haul, pryd bynnag y byddo hynny o
>> fewn ei (g)allu.
>>
>> Eurwyn.
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
>> Sian Roberts
>> Sent: 10 February 2012 09:20
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: enwau cymdeithasau
>>
>> Mae'n siwr bod hyn wedi'i drafod o'r blaen ond beth sydd orau i'w
>> wneud ag enwau cymdeithasau yng Nghymru sydd heb enw Cymraeg
>> swyddogol?
>>
>> "Rhayader Art Group" sydd dan sylw. Dwi'n cael fy nhemtio i'w adael
>> yn Saesneg am mai dyna yw ei enw.
>>
>> Siân
>
|